Rydym yn dewis ein staff yn ofalus, er mwyn cael y staff mwyaf bywiog a hapus yn y Ganolfan.
Mae pob aelod o staff wedi cael gwiriad DBS.
Mae gan Steff ddiddordeb angerddol mewn chwaraeon ac mae wedi bod yn rhan o’i fywyd erioed. Mae ei brofiad helaeth yn cynnwys bod yn athro cynradd profiadol a bod yn rhedwr tywys i Tracey Hinton, y rhedwraig ddall ryngwladol, y bu’n ddigon ffodus i gystadlu gyda hi yn ystod Gemau Paralympaidd Athen, Beijing a Llundain.
Sefydlodd Steff Sgiliau dair blynedd yn ôl er mwyn gwella safon addysg gorfforol mewn ysgolion, gan gynnig clybiau gwyliau i gadw plant yn heini. Roedd yn awyddus i ehangu’r cysyniad ymhellach, ac yn 2019 lansiodd Steff Canolfan Chwarae Sgiliau er mwyn cynnig mwy i blant a theuluoedd Sir Gâr a thu hwnt.
Mae Alice wedi bod yn rheoli Canolfan Chwarae Sgiliau ers iddi agor ei drysau yn 2019. Ac iddi gefndir mewn arlwyo, mae Alice hefyd yn gyn-athrawes gynradd, ac Addysg Gorfforol oedd ei hoff bwnc. Treuliodd Alice y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn cymryd rhan mewn chwaraeon, gan chwarae pêl-droed i’w chlwb lleol, Llanybydder yn benodol, a chwaraeodd yn Uwch Gynghrair Cymru i dîm Merched Tref Aberystwyth.
Ei hoff ran o reoli’r ganolfan yw dod i adnabod y teuluoedd sy’n ymweld â’r lle, a’u gweld yn cael hwyl. Mae Alice yn mwynhau’r sesiynau synhwyraidd a’r sesiynau sgiliau bach, sef y ffordd orau o ddod i adnabod y rhai bach a’u teuluoedd.
Mae wrth ei bodd â chwaraeon, gan gynnwys hyfforddi, chwarae pêl-rwyd, cerdded a rhedeg. Mae Alice yn mwynhau rhannu ei brwdfrydedd dros weithgareddau gyda’r plant sy’n ymweld â Sgiliau.
Mae Canolfan Chware Sgiliau bob amser yn chwilio am unigolion gweithgar, llawn hwyl, sy’n medru’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n bwysig iawn i ni fod ein staff yn ddwyieithog fel y gall pob plentyn deimlo’n gyfforddus wrth gyfathrebu â ni.
Os ydych chi’n credu bod gennych yr hyn sydd ei angen i ymuno â’r criw, anfonwch e-bost atom: sgiliau@gmail.com
Canolfan Chwarae Sgiliau, Myrtle Hill, Pensarn,
Caerfyrddin SA31 2NG
© Canolfan Chwarae Sgiliau
All Rights Reserved 2020