Mae’r man chwarae diogel hwn wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer plant bach hyd at 3 oed. Mae gwydr yn amgylchynu’r man chwarae meddal er mwyn i chi gadw llygad ar y plantos bach. Mae cod ar y giât hefyd, fel y gall rhieni sicrhau bod y plant yn aros yn ddiogel y tu mewn iddo.
Mae’r man chwarae meddal wedi’i ddylunio i gynorthwyo sgiliau amrywiol plant bach. Mae’r cyfarpar yn addas ar gyfer rholio, i annog cydbwysedd ac i helpu gyda’r cydsymud rhwng y llaw a’r llygad. Mae’r man yn cynnwys gwahanol siapiau a llwyth o deganau er mwyn iddynt archwilio mewn amgylchedd diogel.
Yn bwysicaf oll, mae’n rhoi cyfle i blant cyn oed ysgol gymdeithasu a rhyngweithio â phlant eraill.
Mae gennym arena chwaraeon bwrpasol yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau. Mae’n fan chwarae diogel ar gyfer amrywiol chwaraeon. Gellir chwarae pob gêm bêl y tu mewn, o bêl-droed i bêl-fasged. Gall plant chwarae mewn grwpiau neu gallan nhw ymarfer cicio tuag at y gôl yn eu hamser eu hunain.
Mae’r bag neidio mawr yn rhoi cyfle a rhyddid i blant o bob oed neidio, troi, plymio a throelli ar fag mawr wedi’i lenwi ag aer. Mae aelod o staff yn stiwardio’r Bag Aer Anferth, ac mae diogelwch y plant yn bwysig i ni. Rydym eisiau i blant fwynhau magu hyder, gan neidio o wahanol lefelau a chael hwyl.
Mae Sgiliau’n cynnig man chwarae meddal mwy o faint, sy’n cynnwys sleidiau, rhwydi dringo, pwll peli, sleid twnnel tywyll a sleid gyfochrog. Gall plant anturio, mentro i uchelfannau ac archwilio gwahanol rwystrau. Dyma ffordd wych i’r plant fforio, cael hwyl a llosgi bach o egni.
Mae’r tîm wedi creu man chwarae tawelach i blant o bob oed fwynhau. Yn yr ystafell, gall eich plant ddarlunio, darllen llyfrau, ymlacio ar sachau eistedd, chwarae â threnau bach, chwarae â chegin fach a gwahanol deganau.
Mae’r ystafell dawel wedi’i dylunio i fod yn fan tawel i blant ryngweithio â’i gilydd ac ymlacio.
Canolfan Chwarae Sgiliau, Myrtle Hill, Pensarn,
Caerfyrddin SA31 2NG
© Canolfan Chwarae Sgiliau
All Rights Reserved 2020