Dyluniwyd ein hystafell synhwyraidd yn arbennig er mwyn i blant bach fwynhau golau, symud a chyffwrdd synhwyraidd.
Mae’r ystafell yn cynnwys tiwbiau swigod lliwgar sy’n lleddfu, ffyn ffeibr optig, goleuadau synhwyraidd, drychau diddiwedd, drych hud a gweithgareddau synhwyraidd wedi’u gosod ar y wal.
Mewn man ar wahân i’r man chwarae meddal, mae’r ystafell synhwyraidd yn dawelach ac yn fwy diogel i blant archwilio drwy edrych a theimlo.
Mae’r ystafell synhwyraidd ar gael i chi ei llogi’n breifat os hoffech bach mwy o breifatrwydd. Gellir llogi’r ystafell ar ddyddiau penodol, boed hynny ar gyfer grŵp neu glwb.
Bob dydd Iau rhwng 1pm a 1:45pm, mae ein tîm yn cynnal sesiwn chwarae blêr i fabanod a phlant bach.
Dewch draw â’ch plant i’n sesiwn chwarae blêr sydd am ddim, er mwyn iddynt archwilio pethau o wead gwahanol, i ddatblygu eu synhwyrau, i greu ac i fwynhau datrys problemau.
Yn bennaf oll, mae’n gyfle i greu llanast a chael hwyl!
Yng nghanol Canolfan Chwarae Sgiliau, mae gennym gae chwarae dan do sy’n addas ar gyfer clybiau chwaraeon a gweithgareddau o bob math.
Mae ein cae chwarae dan do ar gael i’w logi’n breifat ar ôl 5pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 5pm a 7pm ar ddydd Gwener a dros y penwythnos.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer hyfforddi dros y gaeaf, ac i ysgolion a mudiadau gynnal gweithgareddau.
Canolfan Chwarae Sgiliau, Myrtle Hill, Pensarn,
Caerfyrddin SA31 2NG
© Canolfan Chwarae Sgiliau
All Rights Reserved 2020