Agorwyd Canolfan Chwarae Sgiliau ym mis Hydref 2019 gan Steffan Hughes, un sydd â diddordeb byw mewn chwaraeon. Yn wir, mae ‘sgiliau’ wrth wraidd diben ein Canolfan. Ar ôl sefydlu Sgiliau, sy’n gweithio gydag ysgolion i gynnig sesiynau Addysg Gorfforol, roedd Steff am greu man canolog ar gyfer gweithgareddau a oedd yn addas ar gyfer y gymuned ehangach.
Yma, mae’r tîm yn frwd iawn dros chwaraeon, datblygu sgiliau, dod â phobl ynghyd a chael hwyl.
Mae Canolfan Chwarae Sgiliau wedi’i dylunio i greu profiad sy’n rhoi ymdeimlad braf i’r teulu cyfan. Rydym wedi mynd ati i greu lle chwarae glân, croesawgar a chyfforddus. Mae tîm Sgiliau’n ceisio creu amgylchedd cymdeithasol a chyfeillgar i blant o bob oed, i rieni, i ofalwyr ac i bob mam-gu a thad-cu wneud ffrindiau newydd.
Mae cadw plant yn heini ac ymarfer corff (heb sylweddoli hynny) mor bwysig hefyd o ran eu lles meddyliol. Mae Canolfan Chwarae Sgiliau’n cynnig cyfle i blant ac oedolion gymdeithasu mewn amgylchedd llawn hwyl. Mae hawl gan oedolion fod yn blant mawr ac ymuno yn yr hwyl, neu gael clonc go dda dros baned.
Mae Canolfan Chwarae Sgiliau wedi’i dylunio i gyffroi, i symbylu ac i fagu hyder plant. Rydym yn credu’n gryf mewn dysgu drwy chwarae. Drwy gael hwyl a sbri wrth ymarfer corff, gall plant ddatblygu sgiliau corfforol a chymdeithasol mewn modd naturiol.
Mae rhoi cyfleodd i blant i fwynhau profiadau corfforol mewn amgylchedd diogel ac hapus yn bwysig iawn i ni yn Sgiliau. Ni wedi rhestru rhai rheolau i sicrhau ei fod yn le saff i fwyta, yfed a chwarae.
Dyluniwyd y Ganolfan gyda’r nod o gynnwys y gymuned gyfan. Gall ysgolion a grwpiau logi ystafelloedd, dosbarthiadau a’r Ganolfan gyfan os ydynt eisiau lleoliad tawelach.
Cymraeg yw iaith gyntaf nifer o bobl yng Ngorllewin Cymru, ac roeddem am sicrhau bod plant ac oedolion yn teimlo’n gyfforddus wrth gyfathrebu gyda’n staff. Rydym wedi sicrhau bod pob aelod o’n staff yn ddwyieithog.
Rydym yn hoffi ein planed ac am ei chadw. Lle y bo hynny’n bosibl, rydym yn gwneud ein gorau yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau i ailgylchu, i leihau gwastraff ac i ofalu am ein hamgylchedd.
Canolfan Chwarae Sgiliau, Myrtle Hill, Pensarn,
Caerfyrddin SA31 2NG
© Canolfan Chwarae Sgiliau
All Rights Reserved 2020